£65.00
Pâr o glustdlysau cain syml, wedi'u gwneud o ddisgiau arian ac wedi eu trin yn ysgafn i greu effaith cromennog.
Mae’r disgiau wedi’u hargraffu’n ofalus gyda’n patrwm print llygad y dydd ac mae’r manylion ffoil aur 24ct yn dod â nhw’n fyw.
MESURIADAU:
Llygad y Dydd: 1cm x 1cm
Weiren Bachyn Arian.
Mae cwymp y clustdlws tua 1.5cm.
Sgroliau plastig.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod sut i ofalu am eich gemwaith.
Gemwaith
Tlws cain wedi'i wneud o ddwy ddisg arian mân o wahanol faint, pob un wedi'i drin yn ysgafn i greu effaith cromennog. Mae’r disgiau wedi’u hargraffu’n ofalus gyda’n patrwm print llygad y dydd ac mae’r manylion ffoil aur 24ct yn dod â nhw'n fyw.
Yn symbolaidd o gwlwm na all ei dorri, mae'r tlws yma yn cynnwys dau gylch wedi'u cydgysylltu am byth.
Clustdlysau
Chwilio am glustdlysau bach gyda digon o gymeriad? Mae'r clustdlysau cylchoedd hyfryd yma yn berffaith i'w gwisgo bob dydd. Ar gael mewn dau faint.
Mae'r clustdlysau cylchoedd dwbl yma wedi'u crefftio'n ofalus â llaw.
Darn o emwaith symbolaidd hyfryd fyddai'n gwneud anrheg hyfryd i berson arbennig.
Breichledau
Yn ddarn cain a hardd o emwaith, mae'r freichled hon yn cynnwys swyn wedi'i argraffu â llygad y dydd ynghyd â chanol ffoil aur 24ct.
Mwclis blodau deiniadol, sydd yn symboleiddio'r dair elfen.
Fersiwn leiaf o'n modrwy weadog sydd gyda phatrwm blodyn yr haul.
Fersiwn bach o'r Stỳds Calonnau Blodau, sydd gyda phatrwm print blodau haul cain. Perffaith ar gyfer ychwanegu ychydig o steil i'ch gwisg bob dydd. Gwych ar gyfer llabed clust llai, a gellir eu gwisgo'n hawdd trwy'r dydd.
Chwilio am glustdlysau bach gyda digon o gymeriad? Mae'r clustdlysau cylchoedd gleiniog hyfryd yma yn berffaith ar gyfer gwisgo bob dydd ac ar gael mewn dau faint. Dyma'r rhai lleiaf.
Modrwy hardd gyda phatrwm print llygad y dydd. Daw'r llygad y dydd yn fyw gyda'r manylion ffoil aur 24ct.
Anrheg perffaith i rhywun arbennig. Mae'r mwclis calon hwn yn gain ac yn oesol; ffordd wych o ddangos fod rhywun yn arbennig i chi.