£65.00
Pâr o glustdlysau cain syml, wedi'u gwneud o ddisgiau arian ac wedi eu trin yn ysgafn i greu effaith cromennog.
Mae’r disgiau wedi’u hargraffu’n ofalus gyda’n patrwm print llygad y dydd ac mae’r manylion ffoil aur 24ct yn dod â nhw’n fyw.
MESURIADAU:
Llygad y Dydd: 1cm x 1cm
Weiren Bachyn Arian.
Mae cwymp y clustdlws tua 1.5cm.
Sgroliau plastig.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod sut i ofalu am eich gemwaith.
Gemwaith
Yn symbolaidd o gwlwm na all ei dorri, mae'r tlws yma yn cynnwys dau gylch wedi'u cydgysylltu am byth.
Clustdlysau
Calonnau gweadog ar wifrau clust gyda bachyn arian. Perffaith ar gyfer gwisgo bob dydd.
Styds gyda phatrwm print llygad y dydd. Daw'r llygad y dydd yn fyw gyda'r manylion ffoil aur 24ct.
Darn o emwaith symbolaidd hyfryd fyddai'n gwneud anrheg hyfryd i berson arbennig.
Crogdlws cain, wedi'i drin yn ysgafn i greu effaith cromennog. Ar gael hefyd mewn maint mwy. Mae’r ddisg wedi’i hargraffu’n ofalus gyda’n patrwm print llygad y dydd benywaidd ac mae’r manylion ffoil aur 24ct yn dod â nhw’n fyw.
Breichledau
Yn ddarn cain a hardd o emwaith, mae'r freichled hon yn cynnwys swyn wedi'i argraffu â llygad y dydd ynghyd â chanol ffoil aur 24ct.
Sêl
Anrheg perffaith i rhywun arbennig. Mae'r mwclis calon hwn yn gain ac yn oesol; ffordd wych o ddangos fod rhywun yn arbennig i chi.
Mwclis maint canolig siâp calon, gyda phatrwm print blodyn yr haul cain.
Chwilio am glustdlysau bach gyda digon o gymeriad? Mae'r clustdlysau cylchoedd gleiniog hyfryd yma yn berffaith ar gyfer gwisgo bob dydd ac ar gael mewn dau faint. Dyma'r rhai lleiaf.
Mae'r clustdlysau cylchoedd dwbl yma wedi'u crefftio'n ofalus â llaw.